Mae ysgrifennu adroddiadau da yn hanfodol i’r broses o Adolygu Cynnyd Cymhwysedd (RCP) ac mae’n hollbwysig mewn sefyllfaoedd lle gallai pryderon godi ynghylch perfformiad neu alluoedd hyfforddai. Bydd ansawdd a manylder ysgrifennu adroddiadau yn rhan o’r mecanwaith sgorio ar gyfer dewis ES. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am berfformiad, ymddygiad neu allu clinigol eich FD, mae’n rhaid i chi siarad â’ch TPD. Yn y lle cyntaf, bydd eich TPD yn dod i’ch practis gan arsylwi’r FD gyda’r nod o ddod i benderfyniad neu ei uwchgyfeirio at y Deon Cyswllt ar gyfer DFT – yn dibynnu ar ganfyddiadau eu hasesiad.
Mae’n bwysig iawn bod pob pryder yn cael eu cofnodi’n effeithiol ar yr e-bortffolio. Mae’r Tîm Dilyniant Hyfforddeion yn AaGIC wedi cyhoeddi canllawiau ar ysgrifennu adroddiadau effeithiol ar ffurf y dull PACT -
P – Precise descriptions - Disgrifiadau Manwl
- Positive as well as negative examples of strengths and areas for improvement - Enghreifftiau cadarnhaol yn ogystal ag enghreifftiau negyddol o gryfderau a meysydd i’w gwella
- Plan to describe clear objectives/targets/deadlines -Cynllunio i ddisgrifio amcanion/targedau/dyddiadau cau clir
A – Accurate evidence-based judgements - Penderfyniadau cywir ar sail tystiolaeth
- Advice given referenced - Wedi cyfeirio at y cyngor a roddwyd
- Alternatives stated or considered to evidence support given to trainee - Dewisiadau amgen a nodwyd neu a ystyriwyd fel tystiolaeth o’r gefnogaeth a roddwyd i’r hyfforddai
- Attitude of trainee and relationship with ES and programme - Agwedd yr hyfforddai a’i berthynas â’r ES a’r rhaglen
C – Comprehensive reporting covering progress against competencies - Adroddiadau cynhwysfawr sy’n rhoi sylw i’r cynnydd yn erbyn cymwyseddau
- Complimentary feedback from colleagues/patients - Adborth am ddim gan gydweithwyr/cleifion
- Critical incident issues described - Materion digwyddiad critigol a ddisgrifiwyd
- Concerns described in detail - Pryderon wedi’u disgrifio’n fanwl
- Communication skills referenced - Cyfeirir at sgiliau cyfathrebu
T – Tone (avoid frustration and harshness) - Tôn (osgoi rhwystredigaeth a llymder)
- Timely (note if e-portfolio engagements have been regular and timely) - Yn amserol (noder os yw ymrwymiadau e-bortffolio wedi bod yn rheolaidd ac yn amserol)
- Transparency (feedback shouldn’t be a surprise to FD) - Tryloywder (ni ddylai adborth fod yn syndod i FD
Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol – Pryderon ynghylch Perfformiad
Mae gan AaGIC hefyd Uned Cymorth Proffesiynol (PSU) sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i bob deintydd a meddyg sy’n cael hyfforddiant er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd hyfforddi. Gellir atgyfeirio drwy’r Deon Cyswllt ar gyfer Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol neu’r Deon Deintyddol i Raddedigion. Fel arall, gellir cyfeirio eich hun drwy gysylltu â’r Uned Cymorth Proffesiynol.
Cyswlltwch â: Rhif ffôn: 03300 584211 E-bost: HEIW.ProfessionalSupport@wales.nhs.uk
Gwefan: Professional support - HEIW (nhs.wales)