Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol Llawlyfr Goruchwyliwr Addysgol

Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol – Trosolwg

Daeth Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (DFT) yn orfodol ar 1 Hydref 1993, gan ei gwneud yn orfodol i holl raddedigion ysgolion deintyddol Prydain feddu ar dystysgrif sy'n dangos y cwblhawyd cwrs cymeradwy (neu brofiad sy'n cyfateb i'r cwrs hwnnw) cyn y gallent ddod yn Berfformwyr ar gontract GIG.

I’r rhan fwyaf o ddeintyddion sydd newydd gymhwyso, Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol mewn practis deintyddol cyffredinol yw’r cam nesaf ar ôl graddio. Mae AaGIC yn defnyddio trefniant Un Prif Gyflogwr (SLE).  Bydd hyn yn golygu y bydd pob hyfforddai DFT yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Felly bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gyfrifol am bob agwedd ar gyflogaeth mewn perthynas â’r FD.

Mae ES yn cael eu cymeradwyo gan AaGIC bob blwyddyn ac yn cael eu penodi i dderbyn deintydd newydd yn eu Practis Hyfforddi, a rhoi meddygfa gyflawn, nyrs ddeintyddol a chleifion i’r FD.  Mae’r FD newydd yn gweithio yn y practis am uchafswm o 35 awr yr wythnos.  Rhaid i’r ES fod ar gael i ddarparu cymorth a chyngor, boed ar ochr y gadair neu fel arall, a rhaid iddo ddarparu tiwtorial wythnosol sy’n para awr, yn ystod oriau gwaith arferol.  Amlinellir ymrwymiadau sesiynol eraill yn adran ymrwymiadau sesiynol ES y Llwyfan Cymeradwyo Goruchwyliwr Addysgol Deintyddol (DESAP).

Mae’r Arferion Hyfforddi ynghlwm wrth Gynllun Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, sy’n cael ei reoli gan Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi (TPD).  Fel arfer, mae Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn para am flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r FD yn mynychu Diwrnodau Astudio gorfodol.

Mae gan bob FD e-bortffolio ar-lein, sy’n cael ei ddefnyddio fel adnodd addysgol a chofnod o’u cynnydd drwy gydol y flwyddyn.  Yn rheolaidd, mae’r FD yn cofnodi cyflawniadau, pryderon, ac yn disgrifio, yn dadansoddi ac yn pwyso a mesur digwyddiadau sydd wedi digwydd yn ddiweddar.  Mae’r ES yn gweithio gyda’r FD a’r portffolio i gynhyrchu cynlluniau gweithredu ac asesiadau rheolaidd o ddatblygiad.

Mae ‘cwblhau boddhaol’ mewn perthynas â Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn dibynnu nid yn unig ar y broses asesu, ond hefyd ar yr hyfforddai sy’n gweithio mewn practis hyfforddi am 12 mis; cynnal a chadw a diweddaru e-bortffolio; mynychu holl ddiwrnodau astudio’r cynllun; cwblhau’r Cyflwyniadau Achos trwy'r Rhwydwaith Dysgu ac Asesu Cyfoedion Dienw (APLAN) a chwblhau gwaith prosiect Gwella Ansawdd yn ystod y flwyddyn. 

Mae Llywodraeth Cymru yn Ariannu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yng Nghymru.

Previous

Next