- Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dyrannu eich FD ar sail eu safle Recriwtio Cenedlaethol.
- Bydd TPD a Gweinyddwr AaGIC ar gyfer y cynllun rydych chi wedi cael eich dyrannu iddo, yn cysylltu â chi gyda rhagor o arweiniad ar y trefniadau ar gyfer eich cynllun a rhaglen diwrnod astudio’r cynllun ac ati.
- Bydd AaGIC yn rheoli Rhaglen Hyfforddiant y Sefydliad Deintyddol dros y flwyddyn nesaf. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun, am yr addysg neu am yr hyfforddiant, cysylltwch â Chyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant eich cynllun yn y lle cyntaf, neu dîm canolog Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar DFTenquiries@wales.nhs.uk.
- Bydd AaGICyn cysylltu â chi dros y misoedd nesaf gyda’ch manylion mewngofnodi i gael mynediad at y llwyfannau canlynol:
-
- E-Bortffolio Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol
- Rhwydwaith Dysgu ac Asesu Cyfoedion Dienw (APLAN).
- Os caiff Deintydd Sylfaen sydd angen fisa nawdd myfyriwr ei ddyrannu i chi, bydd AaGICyn anfon eu manylion at NWSSP a fydd yn cysylltu â’r hyfforddai’n uniongyrchol i’w arwain drwy’r broses.
- Rhestr Cyflawnwyr y GIG - Bydd angen i bob FD gofrestru ar Restr Cyflawnwyr yng Nghymru er mwyn dechrau Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol. Ar ôl i ni dderbyn manylion FDs a ddyrannwyd i Gymru gan y swyddfa Recriwtio Genedlaethol, byddwn yn cysylltu â phob FD i’w cynghori i wneud cais i gael eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Deintyddol Cymru yn syth, gan y gall y broses hon gymryd hyd at 12 wythnos i’w chwblhau mewn rhai achosion. Gofynnir i’r FD fynd i www.gwasanaethaugofalsylfaenol.gig.cymru.uk Byddant wedyn yn dewis ‘Cais i gael eich Cynnwys ar y Rhestr Cyflawnwyr Deintyddol’ yn y ddolen Gwasanaethau Deintyddol.
Mae dwy ffurflen gais –
- DPL1 ar gyfer y rheini nad ydynt wedi'u cynnwys ar restr ddeintyddol mewn mannau eraill yn y DU ar hyn o bryd
- DPL4A ar gyfer y rheini sydd wedi’u cynnwys ar restr ddeintyddol mewn mannau eraill yn y DU ar hyn o bryd