Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol Llawlyfr Goruchwyliwr Addysgol

Cyn i’ch FD ddechrau a’r wythnosau cyntaf ar ôl hynny

Mae’n syniad da cynnal cyfarfod staff cyn gynted â phosibl i hysbysu’r staff eu bod wedi eu cymeradwyo fel practis hyfforddi ac y bydd FD yn dechrau gweithio ddechrau Medi.  Os bydd unrhyw oedi gyda’r Archwiliadau Cyn-cyflogi neu’r Archwiliadau Iechyd Galwedigaethol, bydd NWSSP yn rhoi gwybod iddynt cyn 1 Medi.

Tynnwch sylw’r staff at y ffaith bod eich practis wedi cael ei gydnabod fel amgylchedd addas ar gyfer hyfforddi deintydd sylfaen. Mae’n bwysig bod yr holl staff yn cymryd rhan yn gynnar er mwyn cefnogi’r FD pan fyddant yn cyrraedd.

Mae’n werth dweud wrth y staff y bydd y FD yn ddeintydd cwbl gymwys a fydd yn frwdfrydig ac yn gwbl gyfarwydd â’r holl dechnegau diweddaraf, ac y bydd y practis yn elwa o’r mewnbwn newydd hwn o syniadau. Fodd bynnag, bydd angen cefnogaeth, anogaeth ac arweiniad arnynt i addasu i ymarfer cyffredinol. Gwaith y tîm cyfan fydd hyn, nid dim ond yr ES, a bydd pawb yn y practis yn elwa ac yn cymryd rhan. Os ydych chi’n ES ac yn bractis newydd neu os oes aelodau newydd o staff yn y practis a fydd yn gweithio gyda’r FD, byddai’n fuddiol mynychu’r Sesiwn Gynefino ar gyfer staff newydd Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol.

Rhowch wybod i’r staff ei bod yn bwysig, wrth siarad â chleifion, cyfeirio at y FD fel deintydd ifanc sydd â phrofiad a’r wybodaeth ddiweddaraf am y technegau diweddaraf. Peidiwch â dweud wrth y cleifion eu bod newydd gymhwyso ac ni ddylent ar unrhyw gyfrif ddefnyddio’r termau ‘hyfforddai’ neu ‘hyfforddai galwedigaethol’, sy’n awgrymu i gleifion nad ydynt yn gymwys.

Previous

Next