Bydd eich FD yn gofyn am nyrs sydd wedi’i chofrestru’n llawn ac sydd wedi cymhwyso’n llawn bob amser pan fydd yn gwneud gwaith clinigol yn ymarferol. Os nad yw’r nyrs/nyrsys yn gyfarwydd â Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, bydd gofyn iddynt ddilyn cwrs hanner diwrnod a gynhelir gan AaGIC fel arfer ym mis Mehefin i’w paratoi ar gyfer y rôl hon. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cael ei argymell ar gyfer unrhyw aelodau eraill o staff a allai fod gennych a fydd yn delio â’ch FD mewn unrhyw ffordd. Bydd AaGIC yn cysylltu â nhw i roi gwybod iddynt am ddyddiad a lleoliad y cwrs hwn.
Rhaid i nyrs y FD fod yn gwbl brofiadol a chael ei dyrannu’n gyfan gwbl i’r FD yng nghamau cynnar yr hyfforddiant, yn hytrach na chael nifer o nyrsys yn gweithio mewn cylchdro. Rhaid i’r nyrs fod yn fodlon ac yn llawn cymhelliant i weithio gyda’r FD. Dylai nyrs y FD feddu ar sgiliau a phriodoleddau sy’n caniatáu iddynt fod yn ystyriol, yn gymwynasgar, yn gefnogol, yn galonogol ac yn gadarnhaol. Rhaid iddynt fod â pherthynas dda â’r ES, gan eu bod yn gyswllt pwysig rhyngoch chi a’ch FD. Maent yn ffynhonnell adborth hanfodol, yn enwedig yn yr wythnosau cynnar.
Dylid briffio’r nyrs i ddisgwyl i’r FD fod yn araf i ddechrau ac efallai yn ansicr ohonynt eu hunain. Bydd angen iddynt fod yn gefnogol ac yn galonogol i gleifion. Bydd disgwyl iddynt arwain y FD gyda rheoliadau’r GIG, ffurflenni, trin cyfrifiaduron, a llawer o agweddau eraill ar redeg y practis. Rhaid iddynt ddeall eich rôl eich hun a bod yn barod i ymgynghori a thrafod gyda chi am gynnydd y FD.