Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yw’r prif gyflogwr ar gyfer holl Hyfforddeion Deintyddol Sylfaenol Cymru. Mae hyn yn golygu mai Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fydd eu cyflogwr ar gyfer y flwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol. Bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cysylltu â’ch FD i gadarnhau manylion am Archwiliadau Cyn-cyflogi yn cynnwys cais Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ESR a manylion treuliau, gwyliau blynyddol ac ati yn ystod mis Gorffennaf ac Awst.
NWSSP fydd y pwynt cyswllt cyntaf os bydd gan eich FD unrhyw ymholiadau ynghylch eu cyflogaeth dros y misoedd nesaf ac yn ystod y flwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol - NWSSPSLE.Dental@wales.nhs.uk.
Model cyflogaeth gydweithredol yw model y SLE yng Nghymru, gyda chyfrifoldebau’r cyflogwr traddodiadol yn cael eu rhannu rhwng tri phrif randdeiliad, sef:
Un Prif Gyflogwr – Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)
Cyfrifoldeb cyffredinol am gyflogaeth gan gynnwys cyhoeddi llythyrau cynnig ar gyfer cyflogaeth, cwblhau gwiriadau cyflogaeth, cyhoeddi a diwygio contractau cyflogaeth, darparu Gwarchodaeth Indemniad Meddygol ar gyfer gweithgareddau’r GIG, trefnu ceisiadau Rhestr Cyflawnwyr lle bo hynny’n berthnasol, Iechyd Galwedigaethol, cymorth i weithwyr, mwy o geisiadau a gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, cymorth iechyd a lles, hyfforddiant statudol a gorfodol, talu cyflogau a threuliau, defnyddio polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth ar y cyd â’r holl Randdeiliaid, darparu cyfleusterau Adnoddau Dynol, cyfyngiadau/gwaharddiadau a materion disgyblu.
Mae’r Prif Gyflogwr ei hun yn cynnig un pwynt cyswllt sy’n cydlynu gyda’r holl randdeiliaid.
Sefydliad sy’n Lletya
Rheoli a goruchwylio hyfforddiant o ddydd i ddydd gan ES.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Sicrhau bod addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel yn cael eu darparu sy’n cynnwys recriwtio i raglenni hyfforddi, rhaglenni cefnogi ac asesu, datblygu cyfadrannau a monitro ansawdd lleoliadau.
Prif swyddogaeth y tri rhanddeiliad yw sicrhau bod yr hyfforddeion yn cwblhau eu hyfforddiant yn foddhaol a thrwy wneud hynny’n darparu gwasanaeth rhagorol i’r Sector iechyd a gofal cymdeithasol lleol yng Nghymru.
Dyma’r manteision i’r sefydliadau sy’n lletya ac AaGIC:
- Arbedion maint i GIG Cymru
- Un pwynt cyswllt ar gyfer cefnogaeth cyflogaeth ac arbenigedd ar gyfer pob hyfforddai
- Symleiddio prosesau trafodion
- Mwy o waith agos gyda Chyflogwyr GMC/BMA/GDC/GPC/GIG Cymru mewn perthynas â materion cytundebol hyfforddeion.
Dros y misoedd nesaf, anfonir y dogfennau canlynol:
Enw’r Ddogfen |
Parties |
Anfonwyd gan |
Anfonwyd at |
Dychwelir at |
Cytundeb Lleoliad Hyfforddi |
AaGIC a’r Practis sy’n Lletya/Bwrdd Iechyd |
AaGIC |
Practis sy’n Lletya |
AaGIC |
Cytundeb Rheoli Cyflogaeth |
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a’r Practis sy’n Lletya/Bwrdd Iechydd |
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru |
Practis sy’n Lletya |
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
|
Contract Cyflogaeth a Chytundeb Addysgol |
NWSSP a Deintydd Sylfaen |
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru |
Hyfforddai Deintyddol Sylfaenol |
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru |
Llofnodwch y ddogfen briodol a anfonwyd atoch a’i dychwelyd erbyn y dyddiad a nodwyd.