Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol Llawlyfr Goruchwyliwr Addysgol

Salwch

Beth fydd yn digwydd os bydd yr FD yn sâl?

Rhaid i’r FD roi gwybod i’w ES ar ddiwrnod cyntaf eu habsenoldeb pan fydd arnynt angen amser i ffwrdd o’u lleoliad oherwydd salwch; disgwylir iddynt gynnwys natur y salwch.  

Mae’n ofynnol hefyd i’r FD roi gwybod i NWSSP (eu cyflogwr) am unrhyw salwch.  Anfonwch e-bost at NWSSPSLE.Absence@wales.nhs.uk. Ar gyfer unrhyw gyfnod o absenoldeb salwch rhwng un a saith diwrnod calendr, rhaid i’r FD lenwi ffurflen hunan-ardystio, oni bai ei bod eisoes wedi’i hardystio gan nodyn ffitrwydd neu dystysgrif ysbyty. Dylid llenwi hwn ar ôl dychwelyd i’r gwaith.

Os bydd y cyfnod o absenoldeb yn parhau y tu hwnt i saith diwrnod calendr, rhaid i’r FD gyflwyno nodyn ffitrwydd (tystysgrif feddygol) ar gyfer pob diwrnod o absenoldeb ar ôl hynny. Fel arfer, dylai’r ES dderbyn nodyn ffitrwydd dim mwy na thri diwrnod calendr ar ôl iddo ddod yn ddyledus.

Bydd absenoldeb salwch nad yw’n cael ei gynnwys mewn hunan-dystysgrif na nodyn ffitrwydd yn cael ei drin fel absenoldeb heb ei awdurdodi ac ni fydd taliad yn cael ei wneud ar ei gyfer.

Ar ôl unrhyw gyfnod o absenoldeb oherwydd salwch, gofynnir i’r FD fynd i gyfweliad dychwelyd i’r gwaith gyda’u ES i drafod eu habsenoldeb ac unrhyw anghenion neu bryderon penodol sydd ganddynt.

Ar gyfer unrhyw gyfnodau o absenoldeb ar wahân i wyliau blynyddol a gwyliau astudio sydd gyda’i gilydd yn fwy na 14 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn, cynhelir adolygiad i benderfynu a oes angen ymestyn dyddiad cwblhau’r rhaglen. Bydd AaGIC yn cadarnhau unrhyw newid i ddyddiad gorffen y rhaglen.

Gweler isod am lif proses o ran salwch ac absenoldeb. Cyfrifoldeb y FD yw rhoi gwybod I NWSSP am bob achos o salwch:

Previous

Next