Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol Llawlyfr Goruchwyliwr Addysgol

Yr e-bortffolio – cyflwyniad

Rhan o’ch rôl fel Goruchwyliwr Addysgol fydd cymryd rhan yn e-bortffolio eich hyfforddai a chwblhau eitemau gwaith angenrheidiol yn brydlon. Cyfeiriad gwefan yr e-bortffolio yw  https://dentaleportfolio.hee.nhs.uk/.

Bydd eich hyfforddai’n defnyddio ei e-bortffolio i gofnodi’r holl waith clinigol ac i gyflwyno adroddiadau ysgrifenedig fel myfyrdodau clinigol a myfyrdodau tiwtorial.  Bydd e-bortffolio eich hyfforddai yn cael ei ddefnyddio gan baneli asesu Adolygu Cynnydd Cymhwysedd (RCP), sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn bob 6 mis, i asesu cynnydd eich hyfforddai drwy Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, felly bydd angen i’r ES sicrhau eu bod yn cwblhau eich gwaith e-bortffolio yn ôl yr angen. Mae ‘cwblhau boddhaol’ mewn perthynas â Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn dibynnu ar eich hyfforddai (a nhw) yn cynnal eu e-bortffolio yn rheolaidd ac a phrydlon.

Cofiwch fod yr e-bortffolio yn llwyfan y gallai pobl eraill ei weld mewn rhai amgylchiadau, rhai y tu allan i’r proffesiwn, yn enwedig mewn achosion difrifol lle mae digwyddiad arwyddocaol yn ymwneud â chlaf wedi digwydd. Am y rheswm hwn, mae’n hanfodol bod yr holl gofnodion e-bortffolio yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data ac nad ydynt yn cyfeirio at gleifion yn ôl eu henw. Rhaid i’ch cofnodion aros yn ddienw mewn perthynas â manylion adnabod y claf a mynd i’r afael â’r dysgu o safbwynt gwrthrychol yn hytrach nag un goddrychol.

Mae canllawiau cynhwysfawr i ddefnyddwyr e-bortffolio ar gael i’ch helpu i lywio drwy’r broses RCP a bydd Rachel Morgan, Gweinyddwr RCP, yn anfon y rhain atoch chi.

Bydd Rachel Morgan yn cysylltu â chi ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn i roi cyngor i chi ar ba weithgaredd y mae angen ei gwblhau ac erbyn pryd.

Os oes gennych chi unrhyw broblemau mewn perthynas â’r e-bortffolio, cysylltwch â Rachel Morgan (AaGIC) Rachel.Morgan30@wales.nhs.uk.

 

Previous

Next