Mae gan bob Cynllun Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi (TPD) a Gweinyddwr Cynllun DFT. Bydd yna ganolfan leol lle cynhelir diwrnodau astudio ar gyfer y Cynllun.
Mae rhaglen y Diwrnod Astudio yn cael ei threfnu ar wahân ar gyfer pob cynllun gan y TPD ac mae’n cynnwys o leiaf 30 diwrnod ( o leiaf 28 diwrnod gorfodol a 2 yn hunan-gyfeiriedig fel arfer).
Mae gan y rhaglen diwrnod astudio ddull cyfunol ar hyn o bryd, gyda rhai cyrsiau’n cael eu darparu wyneb yn wyneb, fel sesiynau ymarferol a sesiynau ar-lein.
Mae’n rhaid bod yn bresennol ym mhob Diwrnod Astudio. Mae rhai diwrnodau’n cael eu cynnal ar y cyd â chynlluniau eraill, rhai diwrnodau’n cynnwys ES ac FD ac mae rhai diwrnodau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau allanol.
Mae’r cynnwys wedi’i fapio i gwricwlwm Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol a’i nod yw ymdrin â’r meysydd cwricwlwm na ellir eu cynnwys yn hawdd yn amgylchedd y practis hyfforddiant.
Amlinellir amseroedd lleoliadau’r sesiynau yn rhaglen eich cynllun a fydd yn cael ei darparu gan weinyddwr y cynllun cyn i’r flwyddyn hyfforddi ddechrau. Nodir yr amser dechrau ar gyfer pob diwrnod astudio yn rhaglen y cynllun.
Os na fydd modd i’r FD osgoi absenoldeb (salwch neu ddamwain), bydd y FD yn cael eu cynghori i gysylltu â gweinyddwr y cynllun (neu swyddog cyfatebol) ar unwaith, naill ai drwy e-bost neu dros y ffôn. Dyma’r unig resymau derbyniol dros beidio â bod yn bresennol. Bydd y FD yn cael gwybod bod yn rhaid trefnu gwyliau a digwyddiadau cymdeithasol y tu allan i ddyddiau rhaglen diwrnod astudio.
Os bydd yn rhaid i’r FD fethu diwrnod astudio, bydd gofyn iddo lenwi ffurflen cais Deintydd Sylfaen am absenoldeb diwrnod astudio nad oes modd ei osgoi cyn colli diwrnod astudio, a’i chyflwyno i’w TPD i’w gymeradwyo. (Cysylltwch â gweinyddwr y cynllun i gael y fersiwn ddiweddaraf o’r ffurflen hon). Yna, mae’n rhaid i’r FD gofnodi’n ffurfiol yn yr e-bortffolio sut bydd y diwrnod astudio coll yn cael ei drefnu. Dylid trafod y rhaglen ar gyfer yr wythnos ganlynol yn ystod eich tiwtorial ymarfer. Mae hefyd yn ddefnyddiol ystyried y pynciau yr ymdriniwyd â hwy yn yr wythnos flaenorol.