Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol – Trosolwg

Annwyl Hyfforddai Deintyddol Sylfaenol (DFT),

Helo a chroeso i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a’r cam nesaf yn eich gyrfa ddeintyddol. AaGIC yw’r unig Awdurdod Iechyd Arbennig sy’n rhan o GIG Cymru. Mae AaGIC yn eistedd ochr yn ochr ag Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd ac mae ganddo rôl arweiniol yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Cynhyrchwyd y llawlyfr hwn i roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau ei gywirdeb, gan eich helpu i lywio drwy’r prosesau hyfforddi a gweinyddol amrywiol sy’n ganolog i’ch hyfforddiant a’ch datblygiad gyrfaol. Rwy’n gobeithio y bydd o ddefnydd i chi.

Daeth Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn orfodol ar 1 Hydref 1993, gan ei gwneud yn orfodol i holl raddedigion ysgolion deintyddol Prydain feddu ar dystysgrif sy'n dangos eu bod wedi cwblhau cwrs cymeradwy (neu brofiad sy'n cyfateb i'r cwrs hwnnw) cyn y gallent ddod yn Berfformwyr ar gontract gyda’r GIG. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yng Nghymru.

I’r rhan fwyaf o ddeintyddion sydd newydd gymhwyso, Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol mewn ymarfer deintyddol cyffredinol yw’r cam nesaf ar ôl graddio. Mae Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn gyfnod perthnasol o gyflogaeth lle mae Deintydd Sylfaen (FD) yn cael ei anfon i bractis Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDS). Bydd y Goruchwyliwr Addysgol (ES) yn darparu ystod eang o driniaethau a gofal deintyddol i alluogi’r FD i ennill profiad clinigol yn y gwaith. Mae’n ofynnol i Ddeintyddion Sylfaen fynychu diwrnodau astudio eu cynllun gyda’r nodau a’r amcanion o wella cymhwysedd clinigol a gweinyddol a hyrwyddo safonau uchel drwy hyfforddiant ôl-raddedig perthnasol. Cynhelir Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol mewn Practisau Hyfforddi cymeradwy. Mae ymarferwyr deintyddol cyffredinol profiadol, sydd â’r gallu i addysgu a helpu deintyddion newydd, yn cael eu cymeradwyo fel Goruchwylwyr Addysgol. O fewn y practis penodedig, mae’r FD yn cael mynediad at ddeintyddfa ag adnoddau llawn, nyrs ddeintyddol, a chleifion.  Mae’r Deintydd Sylfaenol (FD) newydd yn gweithio yn y practis am uchafswm o 35 awr yr wythnos. Rhaid i’r ES fod ar gael i ddarparu cymorth a chyngor, boed hynny ar ochr y gadair neu fel arall, a rhaid iddo ddarparu tiwtorial wythnosol sy’n para awr yn ystod oriau gwaith arferol.

Mae’r Practisau Hyfforddi wedi’u cysylltu â Chynllun Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, sy’n cael ei reoli gan Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi (TPD). Fel arfer, mae Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn para am flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r FD yn mynychu Diwrnodau Astudio gorfodol yng nghanolfan ôl-raddedig y cynllun.

Mae gan bob FD e-bortffolio ar-lein, sy’n cael ei ddefnyddio fel cymhorthyn addysgol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r e-bortffolio yn cynnwys gwahanol raglenni sy’n rhan o’r proffesiwn (DFT/DCT/WTDFT/PLVE). Yn rheolaidd, mae’r FD yn cofnodi cyflawniadau a phryderon ac yn disgrifio ac yn myfyrio ar ddigwyddiadau sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Mae’r ES yn gweithio gyda’r FD a’r portffolio i gynhyrchu cynlluniau gweithredu ac asesiadau rheolaidd o ddatblygiad.

Mae cwblhau Hyfforddiant Sylfaen yn ‘foddhaol’ yn dibynnu nid yn unig ar y broses asesu, ond hefyd ar weithio yn eich Practis Hyfforddi am 12 mis; cynnal a diweddaru eich e-bortffolio; mynychu’r holl Ddiwrnodau Astudio; cwblhau’r cyflwyniadau achos drwy'r Rhwydwaith Dysgu ac Asesu Cymheiriaid Anhysbys (APLAN) a chwblhau gwaith prosiect Gwella Ansawdd yn ystod y flwyddyn.

Gobeithio y byddwch yn gwneud llawer o ffrindiau ac yn datblygu rhwydweithiau gwerthfawr yn ystod eich blwyddyn sylfaen ddeintyddol a fydd yn para am oes.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am y rhaglen neu unrhyw faterion cysylltiedig nad oes modd eu datrys yn lleol yn eich gweithle, rhowch wybod i ni: mae eich Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi, ES a staff AaGIC bob amser ar gael i’ch helpu.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant i chi yn ystod eich hyfforddiant deintyddol arbenigol ac wrth ddatblygu a chyflawni eich dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Yn gywir

Kirstie Moons

Deon Deintyddol Ôl-raddedig

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

 

Previous

Next