Nod Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (DFT) ar gyfer Ymarfer Deintyddol Cyffredinol yw galluogi’r Deintydd Sylfaen (FD) i ddiwallu anghenion ymarfer deintyddol heb oruchwyliaeth, drwy ddatblygu’r sgiliau clinigol a ddysgwyd fel myfyriwr israddedig, ynghyd â sgiliau gweinyddol a sgiliau rheoli ymarfer, i hyrwyddo safonau moesegol uchel a gofal o ansawdd uchel i gleifion.
Cyflawnir y nod hwn drwy:
- Gyflwyno’r FD i ymarfer deintyddol cyffredinol.
- Nodi cryfderau a gwendidau personol a’u cydbwyso drwy raglen hyfforddiant wedi’i chynllunio.
- Galluogi’r FD i ymarfer a gwella ei sgiliau heb bwysau ariannol gormodol.
- Hyrwyddo’r arfer o adolygu cymheiriaid a hunan-adolygu.
- Sefydlu’r angen am addysg, hyfforddiant ac archwilio proffesiynol fel proses barhaus drwy gydol bywyd proffesiynol y deintydd.