Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Codau Gwisg

Mae’n gyfrifoldeb ar bob deintydd o hyd i sicrhau bod eu hedrychiad yn gydnaws â’u rôl broffesiynol ac nad yw’n amharu mewn unrhyw fodd ar gyflawni rolau a chyfrifoldebau deintydd yn effeithiol, gan gynnwys cyfathrebu â chleifion, perthnasau, gofalwyr a staff eraill.

Mae canllawiau ar gael gan NHS Professionals ar godau gwisg ar draws y GIG. Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod rhesymau dilys dros orfodi cod gwisg, gan gynnwys ystyriaethau Iechyd a Diogelwch, ymarferoldeb, llywodraethu a phroffesiynoldeb.

Cynghorir yr hyfforddeion i ddilyn codau gwisg dilys y practis cyflogi. Gall hyn gynnwys cynnal safonau priodol o ran ymddangosiad, gwisg a hylendid personol (er enghraifft, osgoi clustdlysau mawr, dangos croen yn amhriodol, esgidiau ansefydlog ac ati).

Mae gwahaniaethu rhwng codau gwisg dynion a merched yn gyfreithlon, o ystyried cymhwyso’r meini prawf a restrir uchod.

Dylid diosg dillad a allai amharu ar gyfathrebu clinigol, ac asesu, ar adegau priodol.

Previous

Next