Os ydych chi’n bwriadu parhau i weithio yn y GDS yng Nghymru, yna ychydig wythnosau cyn y disgwylir i chi gwblhau eich blwyddyn hyfforddi, anfonir ffurflen Newid Statws atoch i chi ei llenwi.
Dylech ddychwelyd y ffurflen wedi’i llenwi ynghyd â chadarnhad o’ch Rhif Hyfforddiant Galwedigaethol (VT). Ar ôl ei derbyn, bydd eich statws yn cael ei newid o ‘Deintydd Sylfaen’ i ‘Perfformiwr’, a byddwch yn cael eich cynnwys yn llawn ar y Rhestr Perfformwyr Deintyddol yng Nghymru.
Gwneud cais am le ar Restr Perfformwyr Lloegr fel FD cyfredol yng Nghymru
Os ydych chi’n bwriadu gweithio yn Lloegr ar ôl DFT, fel rhan o’ch cais am le ar Restr Perfformwyr Lloegr, bydd gofyn i chi ddangos eich bod wedi cwblhau DFT yn llwyddiannus drwy ddarparu eich rhif VT – bydd rhifau VT yn cael eu cyhoeddi yn nhrydedd wythnos mis Awst (byddwch yn cael e-bost gan AaGIC gyda’ch tystysgrif VT).
Cysylltwch â rhestr perfformwyr deintyddol Lloegr i gael gwybodaeth berthnasol https://pcse.england.nhs.uk/services/performers-lists/dental-performers-list-for-england/