Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Cyn dechrau blwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Yn dilyn proses y cynllun dyrannu Recriwtio Cenedlaethol (NR)

  • Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn darparu rhestr o’r practisau sy’n rhan o’r cynllun i FDs. Y nod yw rhoi digon o wybodaeth i FDs am bob practis er mwyn iddo/iddi allu gwneud dewis hyderus. Pan fydd pob FD ar y cynllun wedi nodi dewis, bydd y broses o ddyrannu yn digwydd ar sail safle NR yr unigolion.
  • Bydd TPD a Gweinyddwr AaGIC ar gyfer y cynllun rydych chi wedi cael eich dyrannu iddo yn cysylltu â chi gyda rhagor o arweiniad ar y trefniadau ar gyfer eich cynllun a rhaglen diwrnodau astudio’r cynllun ac ati.
  • Bydd AaGIC yn rheoli eich rhaglen hyfforddiant deintyddol sylfaenol dros y flwyddyn nesaf. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich addysg neu am yr hyfforddiant, cysylltwch â Chyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant (TPD) eich cynllun i gychwyn, neu dîm canolog AaGIC ar DFTenquiries@wales.nhs.uk. 
  • Bydd AaGIC yn cysylltu â chi dros y misoedd nesaf gyda’ch manylion mewngofnodi i gael mynediad at y llwyfannau canlynol:
      • E-Bortffolio Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol
      • Rhwydwaith Dysgu ac Asesu Cymheiriaid Anhysbys (APLAN)
      • Dental Juce
      • Llwyfan e-ddysgu'r GIG
      • ESR (lle byddwch yn derbyn ac yn gweld eich slipiau cyflog ac ati)
      • Assure Expenses (porth treuliau)
  • Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais i Restr Perfformwyr Deintyddol Cymru cyn gynted â phosibl, oherwydd gall hyn gymryd peth amser a gallai ohirio eich dyddiad dechrau. Y wefan sy’n cynnwys y ffurflen gais a’r nodiadau arweiniad yw pcgc.gig.cymru (cliciwch ar y ddolen Gwasanaeth Gofal Sylfaenol ac yna’r Gwasanaethau Deintyddol).
    Mae dwy ffurflen gais -
      • DPL1 ar gyfer y rheini nad ydynt wedi'u cynnwys ar restr ddeintyddol yn rhywle arall yn y DU ar hyn o bryd.
      • DPL4A ar gyfer y rheini sydd wedi’u cynnwys ar restr ddeintyddol yn rhywle arall yn y DU ar hyn o bryd.

SYLWER na fydd angen i FDs aros i gael eu dyrannu i bractis cyn cyflwyno Cais Rhestr Perfformwyr Deintyddol. Gallwch ychwanegu’r Bwrdd Iechyd yr ydych yn debygol o weithio ynddo ac, os oes angen, gellir ychwanegu / diwygio hwn a manylion y practis yn nes ymlaen. SYLWER HEFYD: Bydd y cais manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cael ei wneud fel rhan o’r gwiriadau cyn cyflogi gyda’ch cyflogwr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC).

  • Os oes angen fisa nawdd myfyriwr arnoch chi, bydd tîm noddi PCGC yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i’ch arwain drwy’r broses.
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yw’r prif gyflogwr ar gyfer holl Hyfforddeion Deintyddol Sylfaenol Cymru. Mae hyn yn golygu mai PCGC fydd eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol. Byddwch yn cael neges e-bost croeso a chwestiynau cyffredin gan PCGC yn cadarnhau manylion am Wiriadau Cyn-cyflogi, gan gynnwys cais Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), ESR a manylion treuliau, gwyliau blynyddol ac ati yn ystod yr wythnosau nesaf.
  • PCGC fydd eich pwynt cyswllt cyntaf os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cyflogaeth dros y misoedd nesaf ac yn ystod y flwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol NWSSPSLE.Dental@wales.nhs.uk.

Rydym wedi cynnwys copi o hysbysiad preifatrwydd DFT AaGIC er gwybodaeth i chi. Pwrpas yr hysbysiad yw rhoi gwybod i chi gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol drwy gydol eich blwyddyn DFT.

Pethau i feddwl amdanynt cyn dechrau ar 1 Medi

  • Ystyriwch gysylltu ag FDs eraill sydd wedi’u dyrannu i’r cynllun i weld a allech chi fyw gyda’ch gilydd.
  • Meddyliwch sut byddwch chi’n teithio i’r practis a lleoliad y diwrnod astudio. Os nad ydych yn gyrru, efallai y bydd angen i chi edrych ar amserlenni bysiau/trenau neu ystyried pasio eich prawf gyrru.
  • Cyn archebu unrhyw wyliau, edrychwch ar raglen y diwrnodau astudio - bydd angen i chi osgoi'r dyddiadau hynny gan fod diwrnodau astudio yn orfodol.
  • Os byddwch chi’n newid eich cyfeiriad e-bost neu’ch rhif ffôn, rhannwch nhw gyda’ch practis, ES, TPD, tîm DFT AaGIC a PCGC.

Ar neu’n fuan ar ôl 1 Medi

  • Byddwch yn cael eich Contract Cyflogaeth a’ch Cytundeb Addysgol ar ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth. Darllenwch a llofnodwch y ddogfen hon a’i dychwelyd i PCGC, neu’n unol â’r cyfarwyddyd.

Gofynnir i chi lofnodi a dychwelyd un copi at y tîm SLE drwy e-bost neu drwy’r post:

nwsspSLE@dental.wales.nhs.uk

Gweithlu Meddygol
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
4-5 Cwrt Charnwood
Heol Billingsley
Parc Nantgarw
CF15 7QZ

  • Cyn i chi ddechrau gweld cleifion, mae’n bwysig eich bod yn mynd i’ch sesiwn ymsefydlu yn y gweithle, yn ymgyfarwyddo â pholisïau ymarfer ac yn ysgrifennu darn myfyriol ar hyn yn eich e-bortffolio.
  • Mynychu’r diwrnod astudio cyntaf (eich diwrnod ymsefydlu).
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael apwyntiadau wythnosol i weld eich ES ar gyfer sesiynau tiwtorial cyn gynted â phosibl. Byddai’n syniad da i chi nodi rhai pynciau yr hoffech eu trafod gyda’ch ES yn ystod yr wythnosau cynnar. Mae’n bwysig eich bod yn paratoi ar gyfer y tiwtorialau hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cael y budd mwyaf ohonynt.
  • Ymgyfarwyddwch â’r cwricwlwm Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, yr e-bortffolio ac asesiadau.
  • Meddyliwch am gwblhau’r asesiadau yn y gweithle.
  • Archebwch wyliau blynyddol gyda’ch practis cyn gynted â phosibl – rhowch o leiaf 6 wythnos o rybudd a chofiwch fod yn rhaid i chi osgoi diwrnodau astudio.
  • Gwnewch yn siŵr bod gan AaGIC a Gweinyddwr eich Cynllun eich manylion cyswllt diweddaraf.
  • Rhowch wybod i’r partïon perthnasol am unrhyw gyflyrau meddygol neu iechyd perthnasol y gallai fod angen cymorth arnoch gyda nhw at ddiben gweithio a hyfforddi.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi indemniad digonol yn ei le. Yn ystod eich cyfnod sylfaen, byddwch yn cael eich cyflogi gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o dan nawdd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cymhwyso Indemniad y GIG i’w gweithgareddau craidd.

Os byddwch yn cael lle mewn bwrdd iechyd, bydd y sefydliad hwn hefyd yn cymhwyso Indemniad y GIG i’ch gweithgareddau GIG, sy’n darparu indemniad ar gyfer unrhyw hawliad sifil sy’n deillio o weithred esgeulus, hepgoriad, neu dorri dyletswydd statudol yn ystod eich dyletswyddau.

Ar hyn o bryd nid oes cynllun wedi’i gefnogi gan y wladwriaeth ar gyfer indemniad ym maes deintyddiaeth gymunedol ac mae’n ofynnol i bob gweithiwr deintyddol cymunedol yng Nghymru gael a chynnal eu gwarchodaeth bersonol eu hunain gan ddarparwr indemniad preifat neu sefydliad amddiffyn meddygol. Bydd disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o’ch yswiriant indemniad i PCGC, AaGIC a’r practis deintyddol rydych chi’n gweithio ynddo.

Previous

Next