Mae gweithio fel Hyfforddai Deintyddol Sylfaenol (DFT) yng Nghymru yn golygu y byddwch yn dilyn model cyflogwr arweiniol sengl (SLE).
Mae’r model SLE yng Nghymru yn fodel cyflogaeth cydweithredol, gyda chyfrifoldebau’r cyflogwr traddodiadol yn cael eu rhannu rhwng tri phrif randdeiliad, sef:
- Cyflogwr Arweiniol Sengl - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC)
Cyfrifoldeb cyflogaeth cyffredinol, gan gynnwys contractau cyflogaeth, gwiriadau cyflogaeth, gwiriadau DBS, tâl, cyfyngiadau/gwaharddiadau a materion disgyblu. Mae’r SLE ei hun yn cynnig un pwynt cyswllt sy’n cydlynu gyda’r holl randdeiliaid.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’ch cyflogaeth, e.e. gwiriadau cyn cyflogi, cyflog ac ati, cysylltwch â NWSSPSLE.Dental@wales.nhs.uk.
- Sefydliad sy’n Lletya
Yn darparu rheolaeth a goruchwyliaeth hyfforddiant o ddydd i ddydd, gan oruchwylwyr clinigol ac addysgol.
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Sicrhau bod addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel yn cael eu darparu sy’n cynnwys recriwtio i raglenni hyfforddi, rhaglenni cymorth ac asesu, datblygu cyfadrannau a monitro ansawdd lleoliadau. Prif swyddogaeth y tri rhanddeiliad yw sicrhau bod yr hyfforddeion yn cwblhau eu hyfforddiant yn foddhaol a thrwy wneud hynny’n darparu gwasanaeth rhagorol i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol lleol yng Nghymru. Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’ch blwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, cysylltwch â’ch Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi yn y lle cyntaf neu â HEIW.DFTenquiries@wales.nhs.uk.
Manteision Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE) i Ddeintyddion Sylfaen yw y bydd gan yr hyfforddai, ar gyfer y cynllun hyfforddi cyfan, un cyflogwr. Rhagwelir y bydd y model yn lleihau biwrocratiaeth, yn darparu mwy o degwch, ac yn gwella’r profiad gwaith i hyfforddeion.
Dyma rai pethau i’w hystyried mewn perthynas â’r trefniant SLE: