Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Gwyliau Blynyddol

Mae gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau â thâl yn ystod y Penodiad cyfnod penodol hwn, neu’r pro rata cyfatebol os ydych chi’n gweithio’n rhan amser. Yn ogystal, mae gennych hawl i gymryd yr 8 diwrnod arferol o wyliau cyhoeddus yng Nghymru, neu’r pro rata cyfatebol os ydych yn gweithio’n rhan-amser. Y flwyddyn wyliau flynyddol yw 1 Ebrill – 31 Mawrth.

Rhaid cyflwyno ceisiadau am wyliau blynyddol gyda rhybudd rhesymol a rhaid i’r sefydliad sy'n lletya eu cymeradwyo. Mae eich gwyliau blynyddol yn cael ei ddyrannu ar sail pro rata ar gyfer pob lleoliad cylchdro. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi sicrhau eich bod yn cymryd eich gwyliau yn ystod unrhyw leoliad penodol, yn unol â’ch contract cyflogaeth.

Gweler y broses isod ar gyfer trefnu gwyliau blynyddol.

Previous

Next