Byddwch yn cael cyfrif e-dreuliau ar-lein ar gyfer hawlio unrhyw dreuliau a ganiateir. Bydd manylion am sut i gael mynediad at eich cyfrif treuliau yn cael eu hanfon i’ch cyfeiriad e-bost GIG tua diwedd y mis cyntaf.
Gwnewch yn siŵr bod derbynebau’n cael eu llwytho ar gyfer yr holl dreuliau (teithio cyhoeddus, cyrsiau hyfforddi, costau parcio, tollau, cynhaliaeth a llety), gan na fydd y treuliau’n cael eu cymeradwyo hebddynt.
Cofiwch hefyd sicrhau bod treuliau’n cael eu cyflwyno o fewn 3 mis i ddyddiad y digwyddiadau perthnasol.
Rhaid i’r treuliau gael eu cyflwyno erbyn diwedd pob mis a rhaid eu cymeradwyo erbyn y pumed o bob mis i sicrhau eu bod yn cael eu talu o fewn y mis.
Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair neu os ydych chi’n cael anawsterau eraill wrth geisio cael mynediad at eich cyfrif, cysylltwch â’r tîm treuliau ar: Ffôn: 02920 903908 a dewis yr opsiwn Treuliau, neu E-bostiwch: NWSSP.Juniordoctorsrelocation@wales.nhs.uk
Mae Atodiad 2 yn cynnwys rhagor o fanylion ynghylch pa dreuliau y gellir eu hawlio.