Mae Awdurdod Gwasanaethau Busnes (BSA) y GIG yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau canolog hanfodol i sefydliadau’r GIG, contractwyr y GIG, cleifion a’r cyhoedd.
Dyma rai o’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt:
- Rheoli Cynllun Pensiwn y GIG yng Nghymru a Lloegr.
- Taliadau i ddeintyddion am waith a wneir ar gontractau’r GIG sy’n golygu prosesu tua 44 miliwn o ffurflenni deintyddol a thaliadau gwerth dros £2.5 biliwn yng Nghymru a Lloegr.
Gall Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol ddefnyddio porth NHS BSA Compass i gael gwybodaeth am waith a thaliadau'r GIG.
Porth NHS BSA Compass - https://compass.nhsbsa.nhs.uk/eseries/esr.elogin
Ar ôl i chi gael eich cynnwys ar Restr Perfformwyr Cymru a chael Rhif Perfformiwr, byddwch yn gallu cofrestru i gael mynediad i Borth Deintyddol Compass, lle byddwch yn gallu gweld a lawrlwytho datganiadau misol am eich allbwn gwaith GIG.