- Rhaid i’r FD roi gwybod i’w ES ar ddiwrnod cyntaf ei absenoldeb pan fydd angen amser i ffwrdd o’r lleoliad arno oherwydd salwch. Disgwylir i’r FD nodi natur y salwch.
- Mae’n ofynnol hefyd i’r FD roi gwybod i PCGC (ei gyflogwr) am unrhyw salwch. Anfonwch neges e-bost at NWSSPSLE.Absence@wales.nhs.uk
- Ar gyfer unrhyw gyfnod o absenoldeb salwch rhwng un a saith diwrnod calendr o hyd, rhaid i’r FD lenwi ffurflen hunan-ardystio, oni bai ei fod eisoes wedi cael ardystiad gan nodyn ffitrwydd neu dystysgrif ysbyty. Dylid llenwi hwn ar ôl dychwelyd i’r gwaith.
- Os bydd y cyfnod o absenoldeb yn parhau y tu hwnt i saith diwrnod calendr, rhaid i’r FD gyflwyno nodyn ffitrwydd (tystysgrif feddygol) ar gyfer pob diwrnod o absenoldeb ar ôl hynny. Fel arfer, dylai’r ES dderbyn nodyn ffitrwydd dim mwy na thri diwrnod calendr ar ôl iddo ddod yn ddyledus.
- Bydd absenoldeb salwch nad yw’n cael ei gynnwys mewn hunan-ardystiad na nodyn ffitrwydd yn cael ei drin fel absenoldeb heb ei awdurdodi ac ni fydd taliad yn cael ei wneud ar ei gyfer.
- Ar ôl unrhyw gyfnod o absenoldeb oherwydd salwch, gofynnir i FD fynychu cyfweliad dychwelyd i’r gwaith gyda’i ES i drafod ei absenoldeb ac unrhyw anghenion neu bryderon penodol sydd ganddo.
- Ar gyfer unrhyw gyfnodau o absenoldeb, ar wahân i wyliau blynyddol ac absenoldeb astudio, sydd gyda’i gilydd yn fwy na 14 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn, cynhelir adolygiad i benderfynu a oes angen ymestyn dyddiad cwblhau’r rhaglen. Bydd AaGIC yn cadarnhau unrhyw newid i ddyddiad gorffen y rhaglen.
- Gweler y broses isod ar gyfer salwch ac absenoldeb. Cyfrifoldeb y FD yw rhoi gwybod I NWSSP am bob achos o salwch: