Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Pensiwn

Mae aelodaeth o Gynllun Pensiwn y GIG yn wirfoddol, ond fe’ch anogir i ymuno ag ef. Mae’n bwysig nodi y bydd bron pob gweithiwr rhwng 16 a 75 oed yn cael ei gofrestru’n awtomatig ar Gynllun Pensiwn y GIG. Bydd eich cyfraniadau pensiwn yn cael eu tynnu’n uniongyrchol o’ch cyflog a byddant yn destun gostyngiad treth.

Os nad ydych yn dymuno ymuno â Chynllun Pensiwn y GIG, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen ‘Cais i adael Cynllun Pensiwn y GIG (SD502)’. Gellir lawrlwytho’r ffurflen o’r adran ‘Gadael neu gymryd seibiant o’r Cynllun’ ar wefan Pensiynau’r GIG yn www.nhsbsa.nhs.uk/member-hub. Os nad oes gennych fynediad personol at gyfrifiadur, dylech allu cael mynediad at gyfleusterau a fydd yn caniatáu i chi wneud hynny yn y gwaith, neu gysylltwch â Pensiynau’r GIG ar 0300 3301 346 i ofyn am gopi papur.

At ddibenion Cynllun Pensiwn y GIG, ystyrir bod eich cyfnod o gyflogaeth barhaus wedi dechrau ar y dyddiad a fyddai’n cael ei gadarnhau yng nghofnodion Asiantaeth Pensiynau’r GIG.

Previous

Next