Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Oriau Gwaith

Cytunir ar eich oriau a’ch patrymau gwaith gyda’ch Practis sy’n Lletya a’ch TPD. Fel arfer, bydd Deintyddion Sylfaen yn gweithio 35 awr yr wythnos, heb gynnwys amser cinio, gan gynnwys unrhyw gyrsiau neu ddiwrnodau astudio, ar yr adegau y cytunwyd arnynt.

Os yw FD yn gweithio dros y penwythnos, rhaid cael diwrnod i ffwrdd yn ystod yr wythnos (h.y. ni ddylai’r FD weithio am fwy na phum diwrnod mewn unrhyw wythnos arferol).

Bydd Goruchwylwyr Addysg yn caniatáu ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Deintydd Sylfaen fynychu pob diwrnod astudio yn y flwyddyn a drefnir gan Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant Sylfaenol a chaniatáu i’r Deintydd Sylfaen weithio’n ymarferol ar y diwrnodau hynny pan nad yw diwrnodau astudio’n cael eu trefnu neu’n cael eu canslo.

Pan nad oes Diwrnodau Astudio mewn wythnos, byddwch yn gweithio’n glinigol yn y practis fel bod cyfanswm o 35 awr yr wythnos yn cael ei dreulio yn y practis.

Bydd gennych o leiaf un tiwtorial yr wythnos fydd yn para awr, a bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich oriau gwaith arferol.

Previous

Next