Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Yr e-bortffolio

Fel rhan o’ch Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, bydd angen i chi gymryd rhan weithredol yn y broses o gwblhau portffolio electronig. Dyma eich cofnod o gynnydd drwy Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol a bydd yn cael ei ddefnyddio gan eich Goruchwyliwr Addysgol, Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi a’r paneli Adolygiad o Ddatblygiad Cymhwysedd (RCP) i fesur eich perfformiad ac felly i benderfynu ar eich canlyniad terfynol ar ddiwedd eich blwyddyn hyfforddi.

Byddwch yn defnyddio’r portffolio i gofnodi eich gwaith clinigol bob mis (‘Cofnod o Brofiad Clinigol’) yn ogystal â myfyrio ar eich tiwtorialau (‘Myfyrdodau Tiwtorial’), Diwrnodau Astudio (‘Myfyrdodau Diwrnod Astudio’) a’ch profiad clinigol yn gyffredinol (‘Cofnod Myfyriol’). Byddwch yn cofnodi unrhyw ‘ddigwyddiadau arwyddocaol’ drwy’r ‘Cofnod Digwyddiadau Arwyddocaol’ ac yn cofnodi unrhyw anghenion dysgu a’ch cynnydd yn erbyn y rhain drwy’r adran ‘Anghenion Dysgu’. Bydd gan bob adran ei llif gwaith ei hun gyda mewnbwn fel arfer yn cael ei drosglwyddo gennych chi, y Deintydd Sylfaen, i’r Goruchwyliwr Addysgol i’w ystyried neu i’w gwblhau, ac yna i Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi os yw hynny’n berthnasol.

Mae ‘cwblhau boddhaol’ mewn perthynas â Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn dibynnu ar ddiweddaru eich e-bortffolio yn rheolaidd ac yn brydlon.

Cofiwch fod eich e-bortffolio yn ddogfen y gallai pobl eraill ei weld mewn rhai amgylchiadau, rhai y tu allan i’r proffesiwn, yn enwedig mewn achosion difrifol lle mae digwyddiad arwyddocaol yn ymwneud â chlaf wedi digwydd. Am y rheswm hwn, mae’n hanfodol bod yr holl gofnodion e-bortffolio yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data ac nad ydynt yn cyfeirio at gleifion yn ôl eu henw. Rhaid i’ch cofnodion aros yn ddienw mewn perthynas â manylion adnabod y claf a mynd i’r afael â’r dysgu o safbwynt gwrthrychol yn hytrach nag un goddrychol.

Apeliadau

Os digwydd Deilliant 3 neu Ddeilliant 4 yn ystod Adolygiad Terfynol o Ddatblygiad Cymhwysedd (FRCP), mae gennych hawl i gyflwyno cais am apêl. Rheolir apeliadau gan y tîm Rheoli Datblygiad Hyfforddeion (TPG) a gellir gweld y polisi ar gyfer apeliadau, yn ogystal â dogfennau cysylltiedig, ar y dudalen we isod –

https://heiw.nhs.wales/support/trainee-progression-governance

Previous

Next