Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Ymsefydlu

Nod y broses o ymsefydlu ym maes ymarfer deintyddol cyffredinol yn eich practis hyfforddi yw rhoi sylfaen gadarn iawn i chi allu adeiladu gyrfa ddeintyddol lwyddiannus. Bydd yn helpu i roi sicrwydd i chi a’ch ES eich bod yn hyderus ac yn gymwys yn yr holl feysydd ymarfer sydd eu hangen arnoch ar y cam hwn yn y flwyddyn.

Mae’n debyg eich bod wedi cael cyfnod estynedig heb weld a thrin cleifion ac mae’n bwysig eich bod yn cael y sicrwydd bod eich hyder a’ch sgiliau’n dal yn graff. Nid yw’n rhesymol disgwyl i chi fod yn gyfrifol am ofal cleifion os nad ydych yn hyderus eich bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion.

Yn eich sesiwn ymsefydlu, byddwch yn ymdrin â thri phrif faes:

  • Gwybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i’ch practis
    Sut mae eich practis newydd yn gweithio? Beth yw’r protocolau a’r gweithdrefnau ar gyfer delio â busnes dydd i ddydd eich practis? Byddwch yn ymdrin â’r holl eitemau hyn, gan gynnwys cynllun ac offer eich deintyddfa, y tîm a fydd yn gweithio gyda chi, a gofynion iechyd a diogelwch y practis.
     
  • Sgiliau clinigol
    Bydd eich ES yn treulio amser gyda chi yn asesu eich sgiliau a’r profiad a enillwyd gennych yn yr ysgol ddeintyddol ac yn ystod unrhyw waith deintyddol arall y gallech fod wedi’i wneud. Bydd cyfleoedd i wneud gwaith ar ddannedd sydd wedi’u tynnu ac i ddefnyddio’r deunyddiau sydd ar gael i chi yn y practis. Bydd cyfleoedd i chi arsylwi aelodau eraill o’r tîm, mewn ffordd strwythuredig, gan eich helpu i ddysgu am brotocolau eich practis newydd.
     
  • Gwybodaeth a phrofiad rheoleiddiol / gweinyddol
    Cyn trin cleifion, bydd angen i chi fod yn sicr o reoliadau’r GIG sy’n rheoli’r gofal a ddarperir gennych. Mae angen i chi hefyd wybod sut mae’r system gyfrifiadurol yn gweithio a sut mae’r system apwyntiadau’n gweithio.

Fel rhan o’ch cyfnod ymsefydlu, bydd eich ES yn treulio amser yn eich cyflwyno i’ch e-bortffolio a bydd y broses ymsefydlu’n cael ei chofnodi yno.

Rydym ni’n cydnabod y gallech chi elwa o gael y cyfle i ymarfer rhywfaint o’ch sgiliau clinigol. Felly, mae AaGIC wedi sicrhau bod pennau ffug a dannedd plastig ar gael ym mhob practis sydd wedi’u cymeradwyo gan DFT.

Dogfen Pontio Addysg (ETD)

Ar y cyd ag ysgolion deintyddol, bydd pob FD yn gorffen yr ysgol ddeintyddol gydag ETD. Y syniad yw bod yr ysgol ddeintyddol yn asesu galluoedd pob myfyriwr blwyddyn olaf, a bod y myfyriwr yn gwneud hunanasesiad. Yna, caiff y ddogfen ei defnyddio yn ystod y cyfnod Hyfforddiant Sylfaenol i rannu gwybodaeth â’r ES. Cyfrifoldeb yr FD yw rhannu’r ddogfen gyda’r ES. Gall y ddogfen hon fod yn hynod werthfawr i’ch ES. Nid tynnu sylw at eich gwendidau yw ei bwriad, ond gweithredu fel adnodd defnyddiol i helpu eich ES i gynllunio eich hyfforddiant a sicrhau eich bod yn dechrau ar y trywydd cywir!

 

Previous

Next