Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Gofal Iechyd Cynaliadwy Yng Nghymru

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yng Nghymru, a dwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd ei chynllun ar gyfer GIG “sero net” erbyn 2030. Mewn ymateb i’r addewid hwn, rhyddhawyd Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.

Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru (llyw.cymru)

Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) rôl i gefnogi’r gwaith o weithredu’r cynllun hwn, ond gall pob un ohonom ni chwarae rhan.

Mae'r Lancet yn disgrifio newid yn yr hinsawdd fel “y bygythiad iechyd byd-eang mwyaf sy'n wynebu'r blaned yn yr unfed ganrif ar hugain”.

Mae meddwl am newid yn yr hinsawdd yn gallu bod yn frawychus (mae hyn yn ymateb arferol i newyddion ofnadwy, ac rydym ni’n galw hyn yn ‘ofid eco’). Mae cydnabod y ffordd rydym ni’n teimlo, a gweithredu, yn gallu ein helpu i deimlo’n fwy cadarnhaol.

Dyma rai camau bach y gallech chi, fel hyfforddai deintyddol yng Nghymru, eu cymryd:

  • Ymuno â’ch Grŵp Gwyrdd lleol (mae un ym mhob Bwrdd Iechyd)
  • Edrych ar yr adnoddau sydd ar gael ar wefan Iechyd Gwyrdd Cymru
  • Archwilio opsiynau teithio llesol i gymudo i’r gwaith, neu rannu ceir ar gyfer diwrnodau astudio.
  • Dod â mwg / potel ddŵr amldro i bob diwrnod / sesiwn astudio.
  • Lleihau’r defnydd o bapur, gan y bydd yr holl gynnwys addysgol, amserlenni ac agendâu ar gael ar ffurf ddigidol neu electronig.

Mae deintyddiaeth yn wynebu llawer o heriau i helpu i fynd i'r afael â'r broblem, yn enwedig o ran dadlygru, gwaredu gwastraff a defnyddio plastigau untro. Mae allyriadau gwasanaethau deintyddol y GIG yn cyfrif am 3% o ôl troed carbon cyffredinol y GIG.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am Gynaliadwyedd mewn Deintyddiaeth, bydd y ddolen isod yn eich cyfeirio at adnodd rhagorol ar wefan y Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy.

Deintyddiaeth Gynaliadwy: Canllaw ar gyfer Practisau Deintyddol | Y Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy

Mae Gofal Iechyd Cynaliadwy yn rhoi gobaith am ddyfodol iachach a phlaned iachach.

Dyma pam mae’r Lancet hefyd yn disgrifio newid yn yr hinsawdd fel “y cyfle gorau i ailddiffinio penderfynyddion iechyd cymdeithasol ac amgylcheddol”.

Previous

Next