Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Tiwtorialau

Un o ofynion Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yw eich bod yn cael tiwtorial awr o hyd, o leiaf unwaith yr wythnos, yn ystod oriau gwaith arferol.

Mae angen i chi a’ch ES gytuno ar yr amseru gan fod yn rhaid neilltuo amser sy’n rhydd o apwyntiadau cleifion ac ymyriadau.

Bydd cynnwys y tiwtorial yn dibynnu ar eich anghenion dysgu, ond mae rhywfaint o strwythur yn hanfodol. Mae’r pethau sy’n gallu bod yn rhan o diwtorial yn cynnwys yr eitemau hyn:

  • Adolygu eich e-bortffolio.
  • Edrych ar y logiau myfyrio ar gyfer yr wythnos/mis diwethaf. Gallai’r pwyntiau trafod gynnwys:
    • Hunanasesiad: Beth aeth yn dda? Beth oedd yr heriau? Beth oedd ddim wedi mynd yn dda?
    • Ystyried tystiolaeth: e.e. Adborth o’r asesiad? Adborth gan yr hyfforddwr? Adborth gan nyrs? Adborth gan gleifion? Canlyniadau annisgwyl triniaeth? Eich teimladau personol?
    • Dadansoddiad: Disgrifio PAM, e.e. nodi achos ac effaith canlyniadau achos annisgwyl, neu nodi rhesymau pam fod cynnydd yn araf mewn un cymhwysedd ac yn gyflym mewn un arall ac yn y blaen.
    • Cynllunio newid: Disgrifio canlyniadau dysgu’r ymarfer hwn. Nodi beth fyddwch chi’n ei wneud i fynd i’r afael ag unrhyw gynnydd araf neu broblemau.
    • Trafod meysydd sy’n peri pryder, neu broblemau i’w datrys. Gall y rhain gynhyrchu anghenion dysgu i’w cofnodi yn yr e-bortffolio.
    • Trafod pynciau Diwrnod Astudio, o ddiwrnodau astudio yn y gorffennol ac yn y dyfodol.
    • Pwnc tiwtorial ar gyfer yr wythnos, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y tiwtorialau nesaf.

Cofiwch, er mwyn i diwtorial fod yn llwyddiannus, mae angen i chi a’ch ES wneud gwaith cynllunio. Byddwch yn elwa llawer mwy o diwtorialau os ceir trafodaethau rheolaidd ynghylch pa bynciau y byddwch yn eu trafod.

Nid oes angen i diwtorialau ymwneud â phynciau clinigol. Mae llawer o ymarfer deintyddol cyffredinol yn ymwneud â rheoli, cyfathrebu, gwerthoedd proffesiynol a gwerthoedd y GIG. Efallai nad yw’r pynciau hyn yn cael eu harchwilio’n helaeth mewn ysgolion deintyddol, ac eto mae angen eu trafod a’u deall.

Yn ddelfrydol, bydd eich tiwtorialau yn cael eu cynnal mewn amgylchedd tawel, rhydd o aflonyddwch, sŵn ac ymyrraeth. Efallai fod gan eich practis ‘ystafell addysgu’ bwrpasol neu efallai y bydd swyddfa’n cael ei defnyddio. Fodd bynnag, mae’n well cynnal rhai tiwtorialau mewn amgylchedd clinigol – yn y ddeintyddfa. Efallai y byddwch yn cael tiwtorial clinigol gyda’ch ES yn gweithredu fel nyrs/tiwtor, tra byddwch chi’n trin claf, neu i’r gwrthwyneb.

Ar ddechrau’r flwyddyn, mae’n debyg y byddwch yn rhyngweithio’n rheolaidd ac yn ôl yr angen o ran addysgu clinigol gyda’ch ES, neu gydag aelodau eraill o’r tîm. Cofiwch fod pob un o’r sesiynau hyn yn diwtorial bach ar ei ben ei hun, ac mae angen i chi ddysgu a myfyrio er mwyn elwa a thyfu o ran profiad, doethineb a sgiliau.

Previous

Next