Mae fforymau hyfforddeion yn cael eu sefydlu bob blwyddyn hyfforddi i wella ac annog cyfathrebu gyda hyfforddeion ledled Cymru. Trefnir fforymau hyfforddeion oddeutu bob yn ail fis i alluogi hyfforddeion i godi unrhyw faterion sydd ganddynt o ran eu hyfforddiant a rhoi adborth er mwyn i ni allu dysgu sut i wella ein rhaglenni hyfforddi lle bynnag y bo modd.
Ar ddechrau pob blwyddyn hyfforddi, bydd eich TPD yn eich annog i wirfoddoli fel cynrychiolydd cynllun. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich portffolio a chael profiad o arwain a rheoli ar raddfa genedlaethol.
Bydd disgwyl i gynrychiolwyr cynllun DFT wneud y canlynol:
- Mynychu Pwyllgor Hyfforddeion Deintyddol (DTC) AaGIC a mynychu cyfarfodydd dair gwaith y flwyddyn (sylwch y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol yn ystod amser cinio neu gyda’r nos er mwyn lleihau’r effaith ar amser clinigol hyfforddeion).
- Trefnu a chadeirio Fforymau Hyfforddeion rhithiol bob tymor (sesiynau galw heibio) gyda charfan y cynllun i gasglu adborth gan gyd-hyfforddeion ar unrhyw faterion yr hoffent dynnu sylw atynt yng nghyfarfod Pwyllgor Hyfforddeion Deintyddol AaGIC. Dylai’r sesiynau galw heibio hyn gael eu cynnal yn rhithiol tua phythefnos cyn cyfarfod y DTC yn ystod y tymor.
- Nodwch, os na fydd y cynrychiolydd yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod (oni bai bod amgylchiadau heb eu rhagweld) mae’n ofynnol iddo drefnu i gydweithiwr (ar lefel hyfforddiant tebyg) fynychu ar ei ran. Rhaid derbyn ymddiheuriadau wythnos cyn cyfarfodydd DTC.
- Dylai cynrychiolwyr rannu unrhyw bwyntiau perthnasol a godir yng nghyfarfod y DTC gyda’u cyd-hyfforddeion yn brydlon.
- Efallai y bydd cynrychiolwyr hefyd yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiadau ledled y DU, wyneb yn wyneb ac ar y cyd â COPDEND, yn ogystal â digwyddiadau AaGIC ar gyfer holl hyfforddeion gofal iechyd proffesiynol.
- Bydd cynrychiolwyr yn eu swyddi tan ddiwedd mis Awst.
Bydd tystysgrif cyfranogiad yn cael ei dyfarnu i’r sawl sy’n ymgymryd â’r rôl ac sy’n bresennol ym mhob cyfarfod.