Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Cynlluniau Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol Cymru

Mae gan bob Cynllun Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi (TPD) a Gweinyddwr Cynllun DFT a bydd yna ganolfan leol lle cynhelir diwrnodau astudio.

Diwrnodau Astudio

Mae’r rhaglen Diwrnodau Astudio yn cael ei threfnu ar wahân ar gyfer pob cynllun gan y TPD ac mae’n cynnwys o leiaf 30 diwrnod (fel arfer lleiafswm o 28 diwrnod gorfodol a 2 ddiwrnod hunan-gyfeiriedig).

Mae gan y rhaglen diwrnodau astudio ddull cyfunol ar hyn o bryd, gyda rhai cyrsiau’n cael eu darparu wyneb yn wyneb, fel sesiynau ymarferol a sesiynau ar-lein. O ran y sesiynau ar-lein, mae’n hanfodol bod gennych chi’r offer cywir, a’ch bod yn ymdrin â’r diwrnodau hyn mewn ffordd broffesiynol, fel y byddech chi os byddech chi’n mynd i sesiwn wyneb yn wyneb:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio dyfais academaidd i gyrchu’r diwrnodau astudio, gliniadur yn ddelfrydol. Ni fydd defnyddio ffôn yn caniatáu i chi weld cyflwyniadau yn y manylder gofynnol.
  • Gwnewch yn siŵr bod gan eich dyfais gamera sy’n gweithio. RHAID troi camerâu ymlaen yn ystod y sesiwn astudio, oni bai fod y siaradwr yn rhoi cyfarwyddyd i'w diffodd.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gysylltiad rhyngrwyd da. Os yw’r Wi-Fi yn wael, trefnwch gysylltiad ether-rwyd â’ch llwybrydd.
  • Defnyddiwch le addas er mwyn gallu canolbwyntio.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ficroffon, a’i fod wedi’i alluogi i ganiatáu i chi gymryd rhan yn y trafodaethau gofynnol.

Mae eich presenoldeb ym mhob Diwrnod Astudio yn orfodol. Mae rhai diwrnodau’n cael eu cynnal ar y cyd â chynlluniau eraill, rhai diwrnodau’n cynnwys ES ac FD, ac mae rhai diwrnodau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau allanol.

Mae’r cynnwys wedi’i fapio i’r cwricwlwm Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol a’i nod yw ymdrin â’r meysydd cwricwlwm na ellir eu cynnwys yn hawdd yn amgylchedd y practis hyfforddi.

Amlinellir amseroedd a lleoliadau’r sesiynau yn rhaglen cwrs eich Cynllun.

Mewn achos o absenoldeb na ellir ei osgoi (salwch / damwain), cysylltwch â gweinyddwr y cynllun (neu swyddog cyfatebol) ar unwaith, naill ai drwy e-bost neu dros y ffôn. Dyma’r unig reswm derbyniol dros beidio â bod yn bresennol. Rhaid trefnu gwyliau, digwyddiadau cymdeithasol ac ati y tu allan i raglen y diwrnodau astudio.

Trafodwch unrhyw ddiffyg presenoldeb gyda’ch TPD. Bydd eich TPD yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais am absenoldeb o ddiwrnod astudio nad oes modd ei osgoi cyn i chi golli diwrnod astudio a chofnodi’n ffurfiol yn eich e-bortffolio sut yr eir i’r afael â’r Diwrnod Astudio a gollwyd.

Mae paratoi ar gyfer pob Diwrnod Astudio yn hanfodol er mwyn i chi allu cymryd rhan lawn, felly dylech edrych ar raglen y Cynllun ymlaen llaw.

Dylid trafod y rhaglen ar gyfer yr wythnos ganlynol yn ystod eich tiwtorial ymarferol. Mae hefyd yn ddefnyddiol ystyried y pynciau yr ymdriniwyd â hwy yn yr wythnos flaenorol.

Nodir yr amser dechrau ar gyfer pob diwrnod astudio yn rhaglen y cynllun. Mae’n werth cofio mai dyma pryd y bydd y sesiwn gyntaf yn dechrau ac y bydd disgwyl i chi fod yn bresennol cyn yr amser dechrau.

Efallai y bydd cyrraedd sesiwn yn hwyr yn golygu eich bod yn cael eich cofnodi yn “absennol” o’r sesiwn. Yn unol â hynny, disgwylir safonau proffesiynol o ran gwisg mewn Diwrnodau Astudio: nid yw jîns blêr, trowsus byr, crysau-t ac esgidiau ymarfer corff yn briodol.

Bydd cofnod presenoldeb yn cael ei gadw. Gallai absenoldeb eich atal rhag cael ardystiad eich bod wedi cwblhau’r cwrs.

Cynrychiolwyr Hyfforddeion

Mae AaGIC yn awyddus i hwyluso Fforymau i Hyfforddeion. Y nod yw gwella ac annog cyfathrebu gyda hyfforddeion ledled Cymru. Mae’n gyfle i hyfforddeion godi unrhyw faterion sydd ganddynt o ran eu hyfforddiant a rhoi adborth er mwyn i ni allu dysgu sut i wella ein rhaglenni hyfforddi lle bynnag y bo modd.

Bob blwyddyn rydym yn recriwtio cynrychiolydd o bob cynllun ac o bob rhaglen hyfforddi, a fydd yn cysylltu â’u cydweithwyr yn y rhaglen Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol.

Bydd proses benodi’n cael ei chynnal ym mis Medi i nodi’r cynrychiolydd DFT ar gyfer y flwyddyn hyfforddi tan ddiwedd mis Awst. Bydd AaGIC yn cysylltu â chi ym mis Medi gyda rhagor o wybodaeth am y rôl hon a’r broses benodi.

Disgwyliadau a chyfrifoldebau’r cynrychiolydd hyfforddeion

  • Mynychu Pwyllgor Hyfforddeion Deintyddol (DTC) AaGIC a mynychu cyfarfodydd dair gwaith y flwyddyn (sylwch y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol yn ystod amser cinio neu gyda’r nos er mwyn lleihau’r effaith ar amser clinigol hyfforddeion).
  • Trefnu a chadeirio Fforymau Hyfforddeion rhithiol bob tymor (sesiynau galw heibio) gyda charfan y cynllun i gasglu adborth gan gyd-hyfforddeion ar unrhyw faterion yr hoffent dynnu sylw atynt yng nghyfarfod Pwyllgor Hyfforddeion Deintyddol AaGIC. Dylai’r sesiynau galw heibio hyn gael eu cynnal yn rhithiol tua phythefnos cyn cyfarfod y DTC yn ystod y tymor.
  • Dylai cynrychiolwyr rannu unrhyw bwyntiau perthnasol a godir yng nghyfarfod y DTC gyda’u cyd-hyfforddeion yn brydlon.
  • Efallai y bydd cynrychiolwyr hefyd yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiadau ledled y DU, wyneb yn wyneb ac ar y cyd â COPDEND, yn ogystal â digwyddiadau AaGIC ar gyfer holl hyfforddeion gofal iechyd proffesiynol.

Mae hwn yn gyfle gwych i wella ac adeiladu eich portffolio, ennill profiad o fynychu pwyllgorau a datblygu sgiliau rheoli ac arwain sy'n bwysig o ran gallu eu harddangos wrth ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.

Previous

Next