Llawlyfr Hyfforddiant Arbenigol Deintyddol

Llythyr oddi wrth Ddeon Deintyddol Ôl-raddedig

Annwyl Gydweithiwr,

Croeso cynnes i Hyfforddiant Arbenigedd Deintyddol gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a'r cam nesaf yn eich dilyniant gyrfa ddeintyddol. Mae AaGIC yn Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru ac mae'n eistedd ochr yn ochr â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru. Mae gan AaGIC rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Cynhyrchwyd y llawlyfr hwn i roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi yn ystod eich rhaglen hyfforddiant arbenigedd deintyddol. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau ei gywirdeb, gan eich helpu i lywio'r gwahanol brosesau hyfforddi a phrosesau gweinyddol sy'n ganolog i'ch hyfforddiant a'ch dilyniant gyrfa Rwy'n gobeithio y byddwch yn ei gweld yn ddefnyddiol.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn gwneud llawer o ffrindiau ac yn datblygu rhwydweithiau gwerthfawr yn ystod eich hyfforddiant arbenigedd deintyddol a fydd yn para am oes.

Os oes gennych unrhyw bryderon am y rhaglen hyfforddi neu unrhyw faterion cysylltiedig na ellir yn hawdd eu datrys yn lleol yn eich gweithle, rhowch wybod i ni: mae Cyfarwyddwr eich Rhaglen Hyfforddi, Goruchwyliwr Addysgol a staff AaGIC bob amser ar gael i helpu.

A gaf i gymryd y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant i chi yn ystod eich hyfforddiant arbenigedd deintyddol ac wrth ddatblygu a chyflawni eich dyheadau yn y dyfodol.

 

 Yr eiddoch yn gywir,

 

Kirstie Moons
Deon Deintyddol Ôl-raddedig
Addysg a Gwella Iechyd Cymru