Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol Llawlyfr Goruchwyliwr Addysgol

Cwrs Gloywi Datblygu Addysgwyr Deintyddol (Gloywi DDE)

Fel ES cymeradwy ar ryw adeg dros y blynyddoedd diwethaf, byddwch wedi mynychu’r Cwrs 4 diwrnod Datblygu Addysgwyr Deintyddol.  Mae AaGIC yn cydnabod bod angen i ni sicrhau bod yr wybodaeth a’r offer i helpu ES i fod yn hyderus a dylid ail-ymweld â mentoriaid rhagorol a’u diweddaru’n rheolaidd.  Ar y cyd â thîm Gwella Ansawdd Deintyddol AaGIC, rydyn ni’n falch o fod yn cynnig cwrs gloywi 1 diwrnod ar gyfer yr holl ES presennol i’w fynychu yn yr Hydref.   Mae disgwyl i’r sesiwn hon gael ei chwblhau bob 3 blynedd, er mwyn bod yn gymwys i gael eu hail-gymeradwyo.  Bydd ES yn cael 2 sesiwn tuag at eu Ymrwymiadau sesiynol ES am fynychu’r sesiwn.  Bydd rhagor o wybodaeth am y sesiwn hon ar gael dros y misoedd nesaf.

Previous

Next