Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Cofnod Staff Electronig (ESR)

Fel un o weithwyr PCGC, bydd gennych fynediad at Gofnod Staff Electronig (ESR). Dyma ble bydd yr SLE yn cofnodi absenoldebau ac absenoldebau arbennig ar ran sefydliadau sy’n lletya. Bydd FDs yn cael ESR pan fyddant yn dechrau gyda PCGC. Bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad e-bost GIG Cymru. Mae PCGC yn gweithredu system slipiau cyflog di-bapur, felly bydd slipiau cyflog ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho o’r ESR. Cadwch eich gwybodaeth bersonol yn gyfredol ar eich ESR.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch cyfrif ESR, cysylltwch â’r Ganolfan Gymorth ESR yn esrhub.wales@wales.nhs.uk

Previous

Next