Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Cyflog

Mae’r cyflog DFT yn daladwy gan eich cyflogwr, PCGC. Mae’r ffigurau swyddogol ar gyfer cyllid Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol ar gael yn y Datganiad o Hawliau Ariannol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.

Bydd PCGC yn talu cyflog blynyddol i chi yn unol â chyfraddau a bennir drwy Gyfarwyddiadau Datganiad Hawliau Ariannol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol Cymru a gyhoeddir yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru. Y gyfradd flynyddol ar hyn o bryd ar gyfer 2022 yw £35,928.00 y flwyddyn. Fel gweithiwr, byddwch yn talu Treth Incwm dan y cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE).

Byddwch yn cael eich talu ar yr ail ar hugain o bob mis, neu'r dydd Gwener cynt os bydd y bydd yr unfed ar hugain yn disgyn ar benwythnos neu ar ŵyl y banc. Byddwch yn cael eich talu drwy drosglwyddiad BACS. Bydd slipiau cyflog ar gael drwy eich ESR.

Mae rhagor o wybodaeth am Dreth Incwm ar gael yn - http://www.gov.uk/topic/personal-tax/income-tax

Mae rhagor o wybodaeth am gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gael yn - https://www.gov.uk/national-insurance

NWSSP.PayrollSharedServices@wales.nhs.uk

Number – 02920903908

Previous

Next