Llawlyfr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Cyfrif e-bost GIG Cymru

  • Fel un o weithwyr PCGC, byddwch yn cael cyfeiriad e-bost @wales.nhs.uk. Bydd yr holl ddogfennau swyddogol yn cael eu hanfon i’ch cyfeiriad e-bost GIG Cymru, a bydd mynediad at bob llwyfan sy’n cefnogi eich blwyddyn DFT yn cael ei sefydlu gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost GIG.  Felly, mae’n bwysig eich bod yn gwirio’r cyfrif hwn yn rheolaidd.
  • Bydd canllawiau a manylion mewngofnodi i gael mynediad at y cyfrif hwn yn cael eu dosbarthu yn ystod eich diwrnod ymsefydlu.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cael mynediad i’r cyfrif hwn cyn gynted â phosib. Os oes angen cymorth arnoch i gael mynediad i’ch cyfrif, cysylltwch â’r ddesg gwasanaeth TG ar 0333 200 8048 neu 02920 50 2525, neu anfonwch neges e-bost at it.servicedesk@wales.nhs.uk.

Previous

Next